Rydym yn chwilio am nifer o wirfoddolwyr sydd gyda amser
i'w sbario i helpu i ddosbarthu ein cylchlythyr 'Macular Matters' ddwywaith y
flwyddyn. Mae'r cylchlythyr yn ein helpu i godi ymwybyddiaeth o glefyd macular
a chodi arian ar gyfer yr achos. Mae'n cael ei gynhyrchu ym mis Mai a mis
Tachwedd. Felly, os allwch sbario ychydig o'ch amser yn ystod y misoedd yma i
ddosbarthu'r newyddlen yn eich ardal leol i leoliadau megis clinigau llygaid,
meddygfeydd, gwasanaethau golwg gwan, canolfannau iechyd ac ati yna dyma'r
cyfle i chi!
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286
672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com