Cofrestru Diddordeb

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb

05/04/2017

Arweinydd grwp - Cymdeithas Maciwlar


 
Rydym yn chwilio am Arweinwyr gwirfoddol i helpu sefydlu a rhedeg grwpiau cefnogi Macwlaidd lleol ac i sefydlu pwyllgor gweithredol i sicrhau bod y grŵp yn cael ei redeg yn llwyddiannus. Gallwch wneud gwir wahaniaeth yn eich cymuned drwy diwallu anghenion y bobl yr effeithir gan glefyd Maciwla (Macular Disease ). Os fedrwch chi ein helpu i godi ymwybyddiaeth o Macular Disease a dod yn rhan o nifer o grwpiau cymorth a gwirfoddolwyr sy'n helpu pobl sy'n byw gyda Chlefyd Macwlaidd, yna gallai hwn fod yn gyfle i chi.

Ymrwymiad amser yw 2-4 awr y mis. 

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com