Helpu gyda tyfu llysiau, perlysiau a blodau. Rydym yn
chwilio am bobl i ymuno â'n grŵp i ddysgu am blannu a chynnal planhigion.
Cofrestru Diddordeb
Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb
26/04/2017
Cynorthwy-ydd Garddio – Ffarm Meolyci
Gwirfoddolwyr canllaw teclyn – Macular Society
Gall byw gyda cyflwr macwlaidd wneud tasgau bob dydd
ymddangos yn amhosibl. Fel gwirfoddolwyr y cyfle yma, gallwch gael effaith
enfawr ar fywydau pobl drwy ddangos iddynt rai o'r offer syml a rhad sydd ar
gael i'w helpu.
Bydd ein cwrs hyfforddiant yn dangos i chi sut i
arddangos tecylnau fel 'liquid level indicators' i grwpiau Macular Society a
digwyddiadau eraill lleol. Y pwrpas yw dangos sut all pethau mor syml wneud
gwahaniaeth mawr.
Gall technoleg newydd drawsnewid bywydau pobl sydd wedi
colli eu golwg, ond mae gan rai ofn 'smartphones' a chyfrifiaduron tabled. Os
fuasech yn mwynhau helpu pobl sydd gyda nam ar eu golwg ennill hyder gyda
thechnoleg, bydd ein hyfforddiant yn
eich helpu i gyflawni hyn.
Bydd angen i chi allu teithio a byddwn yn ad-dalu'r costau
i chi.
Ni fyddwch yn gwerthu offer, ond byddwch yn caniatáu i
bobl roi cynnig ar bethau ac egluro ble gallent brynu'r offer neu gael rhagor o
wybodaeth.
Siaradwr Gwirfoddol – Macular Society
Gallwch wneud gwir wahaniaeth yn eich cymuned leol drwy
godi ymwybyddiaeth o gyflyrau macwlaidd a'r cymorth a'r gefnogaeth sydd ar
gael. Mae siaradwyr gwirfoddol yn cyflwyno sgyrsiau addysgiadol i grwpiau yn eu
hardal leol. Bydd angen i chi allu teithio a byddwn yn ad-dalu costau i
wirfoddolwyr.
Fel siaradwyr, byddwch yn son am eich profiad eich hun o
glefyd macwlaidd, os oes gennych y clefyd eich hun neu os adnabod ffrind neu
aelod o'r teulu sydd gyda'r cyflwr.
Ni fydd tâl am y trafodaethau yma - y nod yw codi ymwybyddiaeth o gyflyrau
macwlaidd a gwaith y Gymdeithas Macwlaidd.
Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar gwirfoddoli@mantellgwynedd.com
Hyfforddwr Sgiliau golwg – Macular Society
Rydym yn chwilio am bobl i gynnig hyfforddiant 'Sgiliau
golwg'.
Gallwch wneud gwahaniaeth
i fywydau bobl sydd hefo clefyd macwlaidd trwy eu helpu i fanteisio ar y
golwg sydd ganddo ar ôl.
Mae hyfforddwyr 'Sgiliau Golwg' yn cynnig hyfforddiant un-i-un am ddim i bobl
yn eu cymuned leol, gan ddangos sut i ddefnyddio 'eccentric viewing' a llygad cyson sy'n gallu
gwneud tasgau bob dydd fel adnabod wynebau neu wylio teledu ychydig yn haws.
Fel hyfforddwr 'Sgiliau Golwg' , byddwch yn gweithio gyda
phobl o dan hyfforddiant am hyd at dair
sesiwn awr o hyd, dros gyfnod o dri mis fel arfer.
Bydd angen i chi allu teithio yn eich ardal chi, ond
byddwn yn talu eich treuliau.
Bydd cwrs dau ddiwrnod a hanner yn dangos i chi sut i
hyfforddi eraill yn y technegau hyn. Byddwch yn cael y cyfle i achredu eich
sgiliau i Lefel 3 neu 4 ar y Fframwaith Cymwysterau a Chwricwlwm.
Mae angen Gwiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Gwirfoddolwr/aig ystafell stoc - Siop Barnardo's Porthmadog
Mae weithio y tu ôl i'r llenni yr un mor bwysig â bod ar
y llwyfan ! Fel Gwrifoddowlyr Ystafell Stoc , eich rôl allweddol fydd sicrhau
bod stoc o safon yn cael ei wneud yn barod i fynd ar werth yn y siop .
Daw ein gwirfoddolwyr o ystod amrywiol o gefndiroedd ac
yn dod ag amrywiaeth eang o sgiliau i'r sefydliad. Maent yn dod at ei gilydd i
gynhyrchu arian hanfodol ar gyfer gwaith Barnardos gyda phlant, pobl ifanc a'u
teuluoedd .
*Edrych trwy ein rhoddion i ddewis a didoli y stoc
ansawdd ar gyfer lawr y siop .
* Didoli a threfnu stoc yn y ystafell stoc fel bod yr
ardal yn cael ei gadw mewn trefn.
* Gweithio tu ôl i'r llenni i helpu i hongian , maint,
stêm a stoc pris.
* Sicrhau bod yr holl stoc yn yn ddiogel ac yn gweithio'n
iawn .
Arweinwyr a Chynorthwywyr Adran- Bethesda Scout / Beaver
Dyma adran newydd o fewn grŵp sydd eisoes yn bodoli. Mae
Beavers ar gyfer merched a bechgyn rhwng 6-8 mlwydd oed. Mae cyfleoedd
gwirfoddoli ar gael megis Arweinwyr Sgowtiaid Beaver neu Cynorthwy-ydd Adran Sgowtiaid
Beavers . Mae'r rolau yn cynnwys cynllunio a rhedeg rhaglen amrywiol o gemau a
gweithgareddau gyda'r Sgowtiaid Beaver. Darperir hyfforddiant am ddim a gellir
ei achredu gan Rwydwaith y Coleg Agored. Mae'r Sgowtiaid yn ymwneud â chael
hwyl a gwneud ffrindiau newydd, mae'n wych i wella eich CV a gwneud cyfraniad i
fywydau pobl ifanc a'r gymuned leol. Bydd y grŵp yn cyfarfod bob dydd Mawrth ym
Methesda rhwng 5.45pm - 6:45pm.
Cynorthwywyr Adran- Sgowtiaid Porthmadog
Mae Beavers ar gyfer merched a bechgyn rhwng 6-8 mlwydd
oed. Mae cyfleoedd gwirfoddoli ar gael megis Arweinwyr Sgowtiaid neu
Cynorthwy-ydd Adran Sgowtiaid Beavers . Mae'r rolau yn cynnwys cynllunio a
rhedeg rhaglen amrywiol o gemau a gweithgareddau gyda'r Sgowtiaid Beaver.
Darperir hyfforddiant am ddim a gellir ei achredu gan Rwydwaith y Coleg Agored.
Mae'r Sgowtiaid yn ymwneud â chael hwyl a gwneud ffrindiau newydd, mae'n wych i
wella eich CV a gwneud cyfraniad i fywydau pobl ifanc a'r gymuned leol.
Gwirfoddolwr cyfeillio (dros y ffôn) - Macular Society
Mae yna nifer o ffactorau sy'n cyfrannu at ynysu
cymdeithasol - oedran, anabledd, gan gynnwys ynysu gwledig. Pwrpas ein
Gwasanaeth Cyfeillio ffôn yw lleihau ymdeimladau o unigrwydd ar gyfer pobl sy'n
byw gyda chlefyd macwlaidd.
Mae angen gwirfoddolwyr i gynnig clust i wrando i'r rhai
sydd ei angen, eu cynnwys mewn sgyrsiau dros y ffôn, siarad am bethau sydd o
ddiddordeb iddynt boed hynny'n clefyd macwlaidd, hobïau neu'r tywydd. Efallai y
bydd angen i chi hefyd gyfeirio pobl at ffynonellau eraill o gefnogaeth os yw'n
briodol. Bydd pobl sydd am ddefnyddio'r gwasanaeth yma angen cofrestru eu
diddordeb drwy ein Llinell Gymorth 0300 3030 111.
Bydd gwirfoddolwyr yn cael y cyfle i fynychu cwrs
hyfforddi undydd i dderbyn gwybodaeth a'r sgiliau angenrheidiol i ymgymryd â'r
rôl hon.
Subscribe to:
Posts (Atom)