Cofrestru Diddordeb

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb

26/04/2017

Arweinwyr a Chynorthwywyr Adran- Bethesda Scout / Beaver


Dyma adran newydd o fewn grŵp sydd eisoes yn bodoli. Mae Beavers ar gyfer merched a bechgyn rhwng 6-8 mlwydd oed. Mae cyfleoedd gwirfoddoli ar gael megis Arweinwyr Sgowtiaid Beaver neu Cynorthwy-ydd Adran Sgowtiaid Beavers . Mae'r rolau yn cynnwys cynllunio a rhedeg rhaglen amrywiol o gemau a gweithgareddau gyda'r Sgowtiaid Beaver. Darperir hyfforddiant am ddim a gellir ei achredu gan Rwydwaith y Coleg Agored. Mae'r Sgowtiaid yn ymwneud â chael hwyl a gwneud ffrindiau newydd, mae'n wych i wella eich CV a gwneud cyfraniad i fywydau pobl ifanc a'r gymuned leol. Bydd y grŵp yn cyfarfod bob dydd Mawrth ym Methesda rhwng 5.45pm - 6:45pm.

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar gwirfoddoli@mantellgwynedd.com