Cofrestru Diddordeb

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb

26/04/2017

Hyfforddwr Sgiliau golwg – Macular Society


Rydym yn chwilio am bobl i gynnig hyfforddiant 'Sgiliau golwg'.

Gallwch wneud gwahaniaeth  i fywydau bobl sydd hefo clefyd macwlaidd trwy eu helpu i fanteisio ar y golwg sydd ganddo ar ôl.

Mae hyfforddwyr 'Sgiliau Golwg'  yn cynnig hyfforddiant un-i-un am ddim i bobl yn eu cymuned leol, gan ddangos sut i ddefnyddio  'eccentric viewing' a llygad cyson sy'n gallu gwneud tasgau bob dydd fel adnabod wynebau neu wylio teledu ychydig yn haws.

Fel hyfforddwr 'Sgiliau Golwg' , byddwch yn gweithio gyda phobl o dan  hyfforddiant am hyd at dair sesiwn awr o hyd, dros gyfnod o dri mis fel arfer.

Bydd angen i chi allu teithio yn eich ardal chi, ond byddwn yn talu eich treuliau.

Bydd cwrs dau ddiwrnod a hanner yn dangos i chi sut i hyfforddi eraill yn y technegau hyn. Byddwch yn cael y cyfle i achredu eich sgiliau i Lefel 3 neu 4 ar y Fframwaith Cymwysterau a Chwricwlwm.

Mae angen Gwiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. 

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar gwirfoddoli@mantellgwynedd.com