Mae yna nifer o ffactorau sy'n cyfrannu at ynysu
cymdeithasol - oedran, anabledd, gan gynnwys ynysu gwledig. Pwrpas ein
Gwasanaeth Cyfeillio ffôn yw lleihau ymdeimladau o unigrwydd ar gyfer pobl sy'n
byw gyda chlefyd macwlaidd.
Mae angen gwirfoddolwyr i gynnig clust i wrando i'r rhai
sydd ei angen, eu cynnwys mewn sgyrsiau dros y ffôn, siarad am bethau sydd o
ddiddordeb iddynt boed hynny'n clefyd macwlaidd, hobïau neu'r tywydd. Efallai y
bydd angen i chi hefyd gyfeirio pobl at ffynonellau eraill o gefnogaeth os yw'n
briodol. Bydd pobl sydd am ddefnyddio'r gwasanaeth yma angen cofrestru eu
diddordeb drwy ein Llinell Gymorth 0300 3030 111.
Bydd gwirfoddolwyr yn cael y cyfle i fynychu cwrs
hyfforddi undydd i dderbyn gwybodaeth a'r sgiliau angenrheidiol i ymgymryd â'r
rôl hon.