Cofrestru Diddordeb

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb

12/07/2017

Gwirfoddolwyr i'r Eisteddfod Genedlaethol, Ynys Mon 4-12 Awst – Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru


I groesawu ymwelwyr i’r stondin, delio hefo ymholiadau nhw a chefnogi nhw i gymryd rhan yn ein gweithgareddau ac adnoddau sydd wedi cynnig i ddefnydd nhw.  I gefnogi gweithgareddau eraill ar y Maes sef vox pops, holiaduron a dadl.

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Ymwelwyr cartref- prosiect 'Byw'n Dda gyda Colli Clyw' – Action on Hearing Loss Cymru


Nod y prosiect yw sicrhau y gall pobl yng Ngogledd Cymru fyw yn dda gyda cholli clyw. Gwneir hyn drwy gefnogi pobl yn eu cartrefi er mwyn dysgu sut i ddefnyddio offer cynorthwyol. Mae hwn yn brosiect ar y cyd rhwng Cymdeithas y Byddar Gogledd Cymru ac Action on Hearing Loss felly bydd gwirfoddolwyr yn cael eu cofrestru gyda'r ddau sefydliad.

Dyletswyddau a chyfrifoldebau
Bydd y dyletswyddau y rôl yn cynnwys-

• Dysgu sut mae cyfarpar cynorthwyol yn gweithio
• Gwneud ymweliadau cartref i bobl sydd wedi colli eu clyw
• Helpu pobl sydd wedi colli eu clyw i ddysgu sut i ddefnyddio offer cynorthwyol
• Cyfeirio at sefydliadau eraill
• Rhoi cyngor i bobl ar faterion colled 

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Gwirfoddolwr Adborth Iechyd Meddwl Facebook ac Celfyddydau – Fledgling Arts Collective Central


Bydd eich rôl yn cynnwys rhyngweithio gydag aelodau ar-lein yn rhoi adborth gan ddefnyddio'r fforwm Facebook ar eu prosiectau celfyddydau creadigol mewn ffordd adeiladol gadarnhaol. Bydd cael ymagwedd greadigol , cadarnhaol ac adeiladol yn bwysig ar gyfer y rol yma. Mae’r cyfle yma yn addas i oedran 15+

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Gwirfoddolwr Hafal


Ni yw prif elusen Cymru ar gyfer pobl gydag afiechyd meddwl difrifol a’u gofalwyr. 

Gan gwmpasu pob ardal Gymru, mae Hafal yn sefydliad a reolir gan y bobl y byddwn yn eu cefnogi: unigolion sydd wedi cael eu heffeithio gan afiechyd meddwl difrifol. 

Sylfaen ein gwasanaethau ar gyfer cleientiaid yw ein Rhaglen Adferiad unigryw ein hunain. Yn seiliedig ar egwyddorion modern hunanreolaeth a grymuso, mae’r rhaglen hon yn cynnig ffordd gwbl drefnus i gleientiaid o gyflawni adferiad drwy ganolbwyntio ar wella pob agwedd ar eu bywyd.

Mae angen gwirfoddolwyr i helpu redeg sesiynau i ddefnyddwyr ein gwasanaeth ym Mhorthmadog. 

Mae sesiynau yn amrywio o:  Llythrennedd a rhifedd, Sgiliau cyfrifiadurol, Celf a chrefft, Gemau, Coginio, lliwio i oedolion, grwpiau cerdded, Bore Te a coffi, Byrbrydau a sgwrsio ( ar gyfer gofalwyr ), Codi Arian. 

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Gwirfoddolwr Banc Bwyd Arfon


Mae gwirfoddolwyr yn helpu drwy ddidoli a dyddio'r rhoddion o fwyd, trefnu'r storfa a llenwi'r silffoedd, yn ogystal a pharatoi'r parseli bwyd. Gwirfoddolwyr sydd hefyd yn cyfarch, cysuro a chofnodi manylion ac anghenion ein defnyddwyr. Mae hefyd angen gwirfoddolwyr i helpu mewn digwyddiadau yn achlysurol.  Mae’r cyfle yma yn addas i oedran 16+

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Tywysydd/Arweinydd Gwirfoddol ar gyfer teithiau cerdded i bobl gyda nam ar y golwg – Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri


Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn trefnu teithiau cerdded ar y 3ydd dydd Mercher o'r mis i bobl gyda nam ar y golwg.  Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr sydd gyda phrofiad o gerdded ac sydd yn adnabod yr ardal yn dda i helpu i drefnu ac arwain y teithiau cerdded.

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Gwirfoddolwr Codi Arian a Digwyddiadau – Centre of Sign-Sight-Sound


Rydym yn chwilio am grwp o wirfoddolwyr i chwarae rôl hanfodol wrth godi cronfeydd a ffrindiau am Cymdeithas y Byddar Gogledd Cymru . Byddwch yn helpu i recriwtio gwirfoddolwyr eraill i gymryd rhan wrth gynllunio a chyflwyno digwyddiadau. Bydd nid yn unig yn eich helpu i godi arian , byddwch hefyd yn helpu i adeiladu tîm o wirfoddolwyr ymroddedig a fydd yn hyrwyddo ein hachos yn y gymuned ac yn ein helpu i glywed beth mae'r gymuned eisiau ohonom .

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Cynorthwydd Siop – Hospis yn y Cartref


Mae'r Hosbis yn rhoi gofal lliniarol i bobl yng ngogledd orllewin Cymru sydd yn dioddef o salwch terfynnol.  Maent yn  awyddus iawn i glywed gan unrhyw un sydd a diddordeb mewn helpu yn eu siopau elusen - er mwyn codi arian i'r achos teilwng yma. 

Bydd y tasgau yn cynnwys delio gyda chwsmeriaid; gwneud trefn a phrisio rhoddion; defnyddio'r til; arddangos y nwyddau; a chadw'r siop yn lân a taclus. 

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com