Mae'r Hosbis yn rhoi gofal lliniarol i bobl yng ngogledd
orllewin Cymru sydd yn dioddef o salwch terfynnol. Maent yn
awyddus iawn i glywed gan unrhyw un sydd a diddordeb mewn helpu yn eu
siopau elusen - er mwyn codi arian i'r achos teilwng yma.
Bydd y tasgau yn cynnwys delio gyda chwsmeriaid; gwneud
trefn a phrisio rhoddion; defnyddio'r til; arddangos y nwyddau; a chadw'r siop
yn lân a taclus.
Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar
01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com