Mae gwirfoddolwyr yn helpu drwy ddidoli a dyddio'r rhoddion
o fwyd, trefnu'r storfa a llenwi'r silffoedd, yn ogystal a pharatoi'r parseli
bwyd. Gwirfoddolwyr sydd hefyd yn cyfarch, cysuro a chofnodi manylion ac
anghenion ein defnyddwyr. Mae hefyd angen gwirfoddolwyr i helpu mewn
digwyddiadau yn achlysurol. Mae’r cyfle
yma yn addas i oedran 16+
Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar
01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com