Nod y prosiect yw sicrhau y gall pobl yng Ngogledd Cymru
fyw yn dda gyda cholli clyw. Gwneir hyn drwy gefnogi pobl yn eu cartrefi er
mwyn dysgu sut i ddefnyddio offer cynorthwyol. Mae hwn yn brosiect ar y cyd
rhwng Cymdeithas y Byddar Gogledd Cymru ac Action on Hearing Loss felly bydd
gwirfoddolwyr yn cael eu cofrestru gyda'r ddau sefydliad.
Dyletswyddau a chyfrifoldebau
Bydd y dyletswyddau y rôl yn cynnwys-
• Dysgu sut mae cyfarpar cynorthwyol yn gweithio
• Gwneud ymweliadau cartref i bobl sydd wedi colli eu
clyw
• Helpu pobl sydd wedi colli eu clyw i ddysgu sut i
ddefnyddio offer cynorthwyol
• Cyfeirio at sefydliadau eraill
• Rhoi cyngor i bobl ar faterion colled
Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar
01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com