Cofrestru Diddordeb

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb

12/07/2017

Gwirfoddolwr Hafal


Ni yw prif elusen Cymru ar gyfer pobl gydag afiechyd meddwl difrifol a’u gofalwyr. 

Gan gwmpasu pob ardal Gymru, mae Hafal yn sefydliad a reolir gan y bobl y byddwn yn eu cefnogi: unigolion sydd wedi cael eu heffeithio gan afiechyd meddwl difrifol. 

Sylfaen ein gwasanaethau ar gyfer cleientiaid yw ein Rhaglen Adferiad unigryw ein hunain. Yn seiliedig ar egwyddorion modern hunanreolaeth a grymuso, mae’r rhaglen hon yn cynnig ffordd gwbl drefnus i gleientiaid o gyflawni adferiad drwy ganolbwyntio ar wella pob agwedd ar eu bywyd.

Mae angen gwirfoddolwyr i helpu redeg sesiynau i ddefnyddwyr ein gwasanaeth ym Mhorthmadog. 

Mae sesiynau yn amrywio o:  Llythrennedd a rhifedd, Sgiliau cyfrifiadurol, Celf a chrefft, Gemau, Coginio, lliwio i oedolion, grwpiau cerdded, Bore Te a coffi, Byrbrydau a sgwrsio ( ar gyfer gofalwyr ), Codi Arian. 

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com