Cofrestru Diddordeb

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb

29/11/2017

Gwirfoddolwr Cyfeillio / Cefnogi Cyfoedion – Y Gymdeithas Strôc


Fel Gwirfoddolwr Cyfeillio / Cefnogi Cyfoedion byddwch yn cynnig cefnogaeth ar draws ein gwasanaethau Bywyd ar ôl Strôc. Byddwch yn helpu i leihau ynysu cymdeithasol a gwella hyder a hunan-barch goroeswyr strôc.
•           Cefnogi defnyddwyr gwasanaeth ar sail 1:1 yn ôl eu hanghenion naill ai wyneb yn wyneb, ar y ffôn neu ar-lein
•           Cefnogi defnyddwyr gwasanaeth i gyflawni nodau personol



•           Cefnogi defnyddwyr gwasanaeth i ddod yn fwy annibynnol
 
Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddolwyr@mantellgwynedd.com






Siaradwr Gwirfoddol - Cynllun Llefarydd – Diabetes UK Cymru


Fel rhan o'r rôl hon, byddwch yn darparu sgyrsiau codi ymwybyddiaeth am glefyd siwgr, gan gynnwys gwybodaeth am yr arwyddion, symptomau, achosion, triniaethau a pheryglon a pha gefnogaeth a gwasanaethau y gall Diabetes UK gynnig pobl sy'n byw gyda clefyd siwgr. Gellir cyflwyno'r sgyrsiau hyn i grwpiau cymunedol a sefydliadau proffesiynol / corfforaethol.

Fe gewch gyfle i adeiladu'ch profiad a'ch sgiliau yn yr ardal hon trwy ymateb i geisiadau am eich presenoldeb mewn gwahanol ddigwyddiadau a threfnu eich sgyrsiau eich hun lle bo hynny'n briodol, gyda chefnogaeth y tîm yn eich swyddfa leol. Rydym yn darparu cyflwyniadau yn yr iaith Gymraeg a'r Saesneg.

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Hwylusydd Cefnogi Cyfoedion – Diabetes UK Cymru


Mae Cymorth Cyfoedion yn ymwneud â dod â phobl â chlefyd siwgr at ei gilydd yn eu hardaloedd lleol i rannu profiadau o fyw gyda'r cyflwr ac i gael awgrymiadau ymarferol oddi wrth ei gilydd ynglŷn â sut i fyw'n dda. Rydym yn anelu at weithio gyda meddygfeydd lleol i greu nifer o grwpiau cefnogi cyfoedion a fydd yn cael eu harwain gan yr hwylusydd cymorth cyfoedion. Gall y grwpiau hyn hefyd gael eu sefydlu mewn gwahanol leoliadau e.e. prifysgolion, gweithleoedd. Mae'r gwirfoddolwyr hyn yn bobl fel chi, gyda phrofiad byw o glefyd siwgr sy'n gallu trefnu'r sesiynau, hwyluso trafodaeth grŵp a chyfeirio pobl at wasanaethau a gwybodaeth ddefnyddiol yn eu hardal.

Mae Diabetes UK Cymru yn canolbwyntio llawer o'u gwaith ar gefnogaeth i'w cyfoedion yn 2018 ac i'w wneud yn llwyddiant y mae arnom angen pobl fel chi!

Cymorth gyda Sesiynau Galw Heibio – Canolfan Lôn Abaty


Rhoi help llaw a chymryd rhan yn y sesiynnau Galw Heibio drwy sgwrsio gyda cleientau, cymryd rhan mewn digwyddiadau crefft, cerdded, teledu/ffilmiau a llawer mwy.

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Gwirfoddolwyr Ymgysylltu Sgrinio – Iechyd Cyhoeddus Cymru


Cyfle cyffrous i godi ymwybyddiaeth o raglenni sgrinio'r GIG gan gynnwys:

• Sgrinio'r fron
• Sgrinio serfigol
• Sgrinio'r coluddyn
• Sgrinio ymlediadau aortig yr abdomen
• Sgrinio llygaid diabetig 

Mae'r rôl hon yn cynnwys sefydlu stondinau gwybodaeth, mynychu digwyddiadau iechyd a throsglwyddo negeseuon allweddol am sgrinio yn eich cymuned leol.

Os ydych yn mwynhau cwrdd â phobl newydd, yr amser i'w sbario ac yn frwdfrydig am hybu iechyd da, beth am ddod yn un o'n Gwirfoddolwyr Ymgysylltu Sgrinio? 

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Cefnogaeth gyda Trafnidiaeth – Y Groes Goch


Naill drwy ddefnyddio'ch car eich hun neu gerbyd y Groes Goch, byddwch yn cynnig cymorth drws i ddrws i'r rhai sydd mewn angen, gan ddarparu rhyddid teithio i'r rheiny sydd â phroblemau symudedd. Byddwch yn helpu pobl i fynd i'w apwyntiadau meddygol, y pethau bob dydd fel siopa, neu dim ond mynd a hwy allan o'r tŷ i gymdeithasu. Ar wahân i drafnidiaeth, gallwn hefyd ddarparu hebryngwr a fydd, os oes angen, yn aros gyda'r cleient trwy gydol ei taith. 

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Gwirfoddolwr Gwybodaeth a Chefnogaeth, (Wyneb yn Wyneb)– Y Gymdeithas MS

Rydym yn awyddus i recriwtio Gwirfoddolwyr Gwybodaeth a Chymorth (Gwybodaeth a Chefnogaeth, Wyneb yn Wyneb) ar gyfer ein Fy MS, Fy Hawliau, Fy Mhrosiect Dewisiadau yng Nghymru.

Fel Gwirfoddolwr Gwybodaeth a Chymorth, byddwch yn darparu cefnogaeth emosiynol a chyfeillio pobl gyda MS ac yn cyfeirio defnyddwyr gwasanaethau at sefydliadau perthnasol eraill. Rydym yn awyddus i gychwyn y prosiect hwn ym mis Ionawr 2018 a bydd angen i chi gymryd rhan a helpu i wneud newidiadau cadarnhaol i fywydau pobl sy'n byw gydag MS.

Dyma gyfle gwych i ennill profiad gydag elusen fawr, datblygu'ch sgiliau presennol a dysgu rhai newydd.

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Gwirfoddolwr Gwybodaeth a Chymorth, Cyfeillio (Ffôn) – Y Gymdeithas MS


Rydym yn awyddus i recriwtio Gwirfoddolwyr Gwybodaeth a Chymorth (Cyfeillio, Ffôn) ar gyfer ein Fy MS, Fy Hawliau, Fy Mhrosiect Dewisiadau yng Nghymru.

Fel Gwirfoddolwr Gwybodaeth a Chymorth, byddwch yn darparu cefnogaeth emosiynol a chyfeillio pobl gyda MS ac i gyfeirio defnyddwyr gwasanaethau at sefydliadau perthnasol eraill. Rydym yn awyddus i gychwyn y prosiect hwn ym mis Ionawr 2018 ac bydd angen i chi gymryd rhan a helpu i wneud newidiadau cadarnhaol i fywydau pobl sy'n byw gydag MS.

Dyma gyfle gwych i ennill profiad gydag elusen fawr, datblygu'ch sgiliau presennol a dysgu rhai newydd.

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com