Cofrestru Diddordeb

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb

29/11/2017

Gwirfoddolwr Cyfeillio / Cefnogi Cyfoedion – Y Gymdeithas Strôc


Fel Gwirfoddolwr Cyfeillio / Cefnogi Cyfoedion byddwch yn cynnig cefnogaeth ar draws ein gwasanaethau Bywyd ar ôl Strôc. Byddwch yn helpu i leihau ynysu cymdeithasol a gwella hyder a hunan-barch goroeswyr strôc.
           Cefnogi defnyddwyr gwasanaeth ar sail 1:1 yn ôl eu hanghenion naill ai wyneb yn wyneb, ar y ffôn neu ar-lein
           Cefnogi defnyddwyr gwasanaeth i gyflawni nodau personol



           Cefnogi defnyddwyr gwasanaeth i ddod yn fwy annibynnol
 
Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddolwyr@mantellgwynedd.com