Naill drwy ddefnyddio'ch car eich hun neu gerbyd y Groes
Goch, byddwch yn cynnig cymorth drws i ddrws i'r rhai sydd mewn angen, gan
ddarparu rhyddid teithio i'r rheiny sydd â phroblemau symudedd. Byddwch yn
helpu pobl i fynd i'w apwyntiadau meddygol, y pethau bob dydd fel siopa, neu
dim ond mynd a hwy allan o'r tŷ i gymdeithasu. Ar wahân i drafnidiaeth, gallwn
hefyd ddarparu hebryngwr a fydd, os oes angen, yn aros gyda'r cleient trwy
gydol ei taith.
Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar
01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com