Cofrestru Diddordeb

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb

29/11/2017

Hwylusydd Cefnogi Cyfoedion – Diabetes UK Cymru


Mae Cymorth Cyfoedion yn ymwneud â dod â phobl â chlefyd siwgr at ei gilydd yn eu hardaloedd lleol i rannu profiadau o fyw gyda'r cyflwr ac i gael awgrymiadau ymarferol oddi wrth ei gilydd ynglŷn â sut i fyw'n dda. Rydym yn anelu at weithio gyda meddygfeydd lleol i greu nifer o grwpiau cefnogi cyfoedion a fydd yn cael eu harwain gan yr hwylusydd cymorth cyfoedion. Gall y grwpiau hyn hefyd gael eu sefydlu mewn gwahanol leoliadau e.e. prifysgolion, gweithleoedd. Mae'r gwirfoddolwyr hyn yn bobl fel chi, gyda phrofiad byw o glefyd siwgr sy'n gallu trefnu'r sesiynau, hwyluso trafodaeth grŵp a chyfeirio pobl at wasanaethau a gwybodaeth ddefnyddiol yn eu hardal.

Mae Diabetes UK Cymru yn canolbwyntio llawer o'u gwaith ar gefnogaeth i'w cyfoedion yn 2018 ac i'w wneud yn llwyddiant y mae arnom angen pobl fel chi!