Fel rhan o'r rôl hon, byddwch yn darparu sgyrsiau codi
ymwybyddiaeth am glefyd siwgr, gan gynnwys gwybodaeth am yr arwyddion,
symptomau, achosion, triniaethau a pheryglon a pha gefnogaeth a gwasanaethau y
gall Diabetes UK gynnig pobl sy'n byw gyda clefyd siwgr. Gellir cyflwyno'r
sgyrsiau hyn i grwpiau cymunedol a sefydliadau proffesiynol / corfforaethol.
Fe gewch gyfle i adeiladu'ch profiad a'ch sgiliau yn yr
ardal hon trwy ymateb i geisiadau am eich presenoldeb mewn gwahanol
ddigwyddiadau a threfnu eich sgyrsiau eich hun lle bo hynny'n briodol, gyda
chefnogaeth y tîm yn eich swyddfa leol. Rydym yn darparu cyflwyniadau yn yr
iaith Gymraeg a'r Saesneg.
Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar
01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com