Gwnewch y byd ychydig yn fwy caredig! Treuliwch ddiwrnod
gyda myfyriwr rhyngwladol sy’n oedolyn, gan ddysgu am ei ddiwylliant a dangos
iddo eich diwylliant chi a’i wahodd i brofi eich bywyd cartref.
Bydd gwesteiwyr gwirfoddol yn gwahodd myfyrwyr i aros fel
y bo modd i’r myfyrwyr brofi Prydain ‘go-iawn’, oddi wrth y brifysgol a
thwristiaeth ddwys. Bydd hyn yn galluogi iddynt gyfarfod â phobl newydd a dysgu
am amrywiol ddiwylliannau o bedwar ban byd.
Dewiswch ba mor aml rydych am wahodd pobl, faint o bobl rydych
am eu gwahodd (unigolion, parau neu deuluoedd) ac os hoffech gyfarfod â rhywun
o wlad benodol. Caiff myfyrwyr a gwesteiwyr eu paru ar sail diddordebau ac
argaeledd gan Drefnydd Rhanbarthol, a fydd hefyd yn eich helpu i gofrestru.
Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar
01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com