Mae Clywed y Cyn-guddiedig yn brosiect tair blynedd a
ariennir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri. Rydym yn casglu straeon 80 o bobl
sy’n gysylltiedig â chwe safle ysbyty arhosiad hir blaenorol ledled Cymru, ac
yn gwneud gwaith ymchwil mewn llyfrgelloedd ac archifau lleol, er mwyn ystyried
sut roedd pobl ag anabledd dysgu yn cael eu cynorthwyo mewn lleoliadau ysbyty
mawr.
Bydd y cyfle hwn i fod yn Wirfoddolwr Arddangosfa yn
canolbwyntio ar ysbyty Bryn y Neuadd yn Llanfairfechan.
Rydym yn chwilio am Wirfoddolwyr Arddangosfa i gynorthwyo
gwaith prosiect Clywed y Cyn-guddiedig Mencap Cymru a helpu i roi materion
hanesyddol anabledd dysgu a phrosiect Clywed y Cyn-guddiedig ym mhen blaen
meddyliau pobl.
Ynghyd â Gwirfoddolwyr Arddangosfa eraill, byddwch yn
defnyddio cyfweliadau ac ymchwil sydd wedi cael eu casglu i ddylunio
arddangosfa yn yr Amgueddfa Storiel newydd sbon ym Mangor. Mae’r cyfle yma yn addas i bobl oed 16+. Am fanylion pellach cysylltwch â Mantell
Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com