Ydych chi'n chwilio am gyfle hyblyg a chyffrous? A oes
angen prosiect fydd yn cyfrif tuag at eich oriau gwirfoddolwyr ar gyfer
cymhwyster Bagloriaeth Cymru neu gynllun Gwirfoddolwyr y Mileniwm? Os felly,
yna gallai hyn fod yn gyfle delfrydol i chi!
Ymunwch â'r Gymdeithas Strôc i wirfoddoli gan gynllunio,
cynnal a gwerthuso eich digwyddiad codi arian eich hun. Bydd y cyfle
gwirfoddoli hwn yn eich galluogi i ddatblygu sgiliau rheoli digwyddiadau ac yn
eich helpu i ddysgu sut i wneud y gorau o'ch adnoddau a pherthnasoedd sydd
gennych gyda phobl eraill yn eich cymuned leol.
Diddordeb? Cysylltwch â Mantell
Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com
am fwy o fanylion.