Yn wahanol i siopau manwerthu arferol, mae ein siopau'n
cynnig cyfle gwych i chi ennill profiad ym mhob agwedd o'r gwaith manwerthu.
Mae ein Cynorthwywyr Adwerthu Gwirfoddol wedi'u hyfforddi i ymgymryd ag ystod
eang o weithgareddau, gan gynnwys:
* Darparu
gwasanaeth da i gwsmeriaid.
* Gwasanaethu
cwsmeriaid wrth y til.
* Cymryd rhoddion
stoc gan y cyhoedd, a diolch iddynt am eu haelioni a gofyn iddynt a ydynt yn
rhan o gynllun Gift Aid.
* Arwyddo aelodau
newydd i gynllun Gift Aid (mae hyn yn codi 25c ychwanegol i bob punt i
Barnardo's wrth werthu rhoddion ac nid yw'n costio dim i'n rhoddwyr).
* Ail-lenwi stoc
trwy wneud yn siŵr fod ein rheiliau a'n silffoedd wedi'u stocio'n dda, yn
weledol taclus a thwt.
* Nwyddau ledled y
siop.
* Paratoi stoc gan
gynnwys didoli, stemio a phrisio.
* Tasgau gweinyddol
posib megis stocio.
* Os oes gennych
sgil neu ddiddordeb penodol, byddai ein tîm wrth ei boddau yn trafod sut y
gallech ei ddefnyddio yn y siop! Gallai hyn amrywio o sgiliau cyfrifiadurol.
Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar
01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com