Cofrestru Diddordeb

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb

20/12/2017

Gwirfoddoli yn y Caffi ar Nos Fercher rhwng 4 - 7pm – RVS, Ysbyty Gwynedd


Mae siopau, caffi a troli RVS yn gwasanaethu cleifion, staff ac ymwelwyr i'r ysbyty gan wirfoddolwyr cyfeillgar.

Mae angen gwirfoddolwyr i helpu i redeg y gwasanaeth, gwasanaethu cwsmeriaid, cymryd taliad, paratoi diodydd neu fyrbrydau a chlust i wrando.

Bydd y gwirfoddolwyr yn sicrhau glendid a thaclusrwydd y siop, caffi a'r troli bob amser fel y disgwylir mewn amgylchedd ysbyty a sicrhau fod y stoc yn cael ei gadw'n iawn.  Mae’r cyfle yma yn addas i bobl oed 16+.

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com