Cofrestru Diddordeb

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb

06/12/2017

Cynorthwyydd Manwerthu Gwirfoddol – Barnardo’s Cymru


Diben y cyfle:

Mae angen tîm gwych o wirfoddolwyr brwdfrydig i redeg siop Barnardo's lwyddiannus, ac fe allech chi fod yn rhan o hynny! Daw ein gwirfoddolwyr o nifer fawr o gefndiroedd gwahanol, gan ddod ag amrywiaeth eang o sgiliau i'r sefydliad. Maen nhw’n dod at ei gilydd i gynhyrchu arian hanfodol ar gyfer gwaith Barnardo's gyda phlant, pobl ifanc a'u teuluoedd.

Prif weithgareddau:

Yn wahanol i siopau manwerthu safonol, mae ein siopau'n cynnig cyfle gwych i gael profiad ym mhob agwedd ar y gwaith manwerthu. Mae ein Cynorthwywyr Manwerthu Gwirfoddol wedi eu hyfforddi i ymgymryd ag amrywiaeth eang o weithgareddau, gan gynnwys:

• Darparu gwasanaeth cadarn i gwsmeriaid.

• Gweini ar gwsmeriaid wrth y til.

• Derbyn stoc yn rhodd gan y cyhoedd, gan ddiolch iddyn nhw am eu haelioni a chanfod a ydyn nhw’n Rhoddwyr Rhodd Cymorth.

• Cofrestru Rhoddwyr Rhodd Cymorth newydd (mae hyn yn codi 25c ychwanegol y bunt i Barnardo's drwy werthu rhoddion, ac nid yw'n costio unrhyw beth i'r rhoddwyr)
 
Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com