Cofrestru Diddordeb

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb

20/12/2017

Gwirfoddoli yn Nepal a helpu pobl i godi ar eu traed ar ôl daeargryn dinistriol 2015


Ydych chi'n 18-25 oed ac yn ddinesydd y DU? Os felly, gall Gwasanaeth Dinasyddion Rhyngwladol Raleigh (ICS) fod yn rhaglen wirfoddoli i chi! Ariennir ICS gan lywodraeth y DU a gyda hyn bydd eich teithiau hedfan, fisa, brechlynnau, hyfforddiant, bwyd, llety a theithio yn cael eu talu ganddynt.

Ar hyn o bryd, rydym yn recriwtio ar gyfer lleoli yn Nepal am 10 wythnos, gan ddechrau ym mis Ebrill. Mae llefydd yn llenwi'n gyflym felly gwnewch gais heddiw drwy https://goo.gl/ZZt5zb. 

Fel un o wledydd tlotaf y byd, cafodd Nepal tipyn o glec gan ddaeargryn ym 2015. Collodd miloedd o bobl eu bywydau a difrodwyd llawer o'i seilwaith.

Bydd gwaith yn y wlad yn canolbwyntio ar gryfhau bywydau pobl mewn rhanbarthau cafodd eu heffeithio'n wael gan y daeargryn. Byddwch yn helpu i wella mynediad at ddŵr a glanweithdra a chryfhau bywydau'r bobl mewn cymunedau gwledig.

Nid yw ICS yn wyliau. Mae'n anodd ond yn hynod werth chweil. Mae'n gyfle i'ch ddatblygiad personol a chyfle i wneud eich byd yn lle gwell. 

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com