Mae gweithio y tu ôl i'r llenni yr un mor bwysig â bod ar
y llwyfan! Fel Gwirfoddolwr Ystafell Stoc, eich rôl allweddol fydd sicrhau bod
stoc o safon yn barod i'w werthu yn y siop.
Daw ein gwirfoddolwyr o nifer fawr o gefndiroedd
gwahanol, gan ddod ag amrywiaeth eang o sgiliau i'r sefydliad. Maen nhw’n dod
at ei gilydd i gynhyrchu arian hanfodol ar gyfer gwaith Barnardo's gyda phlant,
pobl ifanc a'u teuluoedd
Prif weithgareddau:
* Edrych drwy ein rhoddion i ddewis a didoli'r stoc o
safon ar gyfer llawr y siop.
* Didoli a threfnu stoc yn yr ystafell stoc fel bod y fan
honno’n cael ei chadw'n drefnus.
* Gweithio y tu ôl i'r llenni i helpu i hongian, didoli
yn ôl maint, stemio a phrisio stoc.
* Sicrhau bod yr holl stoc yn ddiogel ac yn gweithio.
Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar
01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com