Cofrestru Diddordeb

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb

16/05/2018

Gwirio gofal iechyd yng Nghymru - Adolygydd Lleyg Gwirfoddol AGIC - Arolygaeth Gofal Iechyd Cymru


Beth yw Adolygydd Lleyg Gwirfoddol?



Mae Adolygwyr Lleyg Gwirfoddol yn ein helpu yn ystod ein harolygiadau ac adolygiadau o wasanaethau gofal iechyd yng Nghymru.



Beth mae Adolygydd Lleyg Gwirfoddol yn ei wneud?



Mae Adolygwyr Lleyg Gwirfoddol yn gweithio ochr yn ochr â'n Timau Arolygu i wirio bod cleifion yn cael gofal iechyd da yng Nghymru.

Mae gwirfoddolwyr yn rhan bwysig o'r broses arolygu ac adolygu. Er bod ein Tîm Arolygu yn sicrhau bod gwasanaethau gofal iechyd yn cydymffurfio â rheoliadau a safonau clinigol, mae gwirfoddolwyr yn siarad â chleifion am y driniaeth a'r gofal y maent yn ei dderbyn gan y gwasanaethau gofal iechyd.



Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com