Cofrestru Diddordeb

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb

16/05/2018

Cydlynydd Grŵp - Cymdeithas MS




Mae arnom angen recriwtio Cydlynydd Grŵp ar gyfer Grŵp Gwynedd a Môn. Fel Cydlynydd Grŵp, byddwch yn gweithredu fel llysgennad i'r grŵp, datblygu cynlluniau blynyddol, arwain gweithgareddau'r grŵp a recriwtio a chefnogi gwirfoddolwyr y grŵp.



Mae'n grŵp bach gweithgar sy'n trefnu ystod o weithgareddau i bobl sy'n byw gydag MS yn lleol, gan gynnwys dau ddosbarth ymarfer corff, côr, caffi neuro misol, sesiynau boccia, sesiynau coffi a gwybodaeth ad hoc o gwmpas yr ardal. Rydym yn cwrdd bob mis fel tîm ac fel Cydlynydd Grŵp byddwch yn gweithio ochr yn ochr â'r gwirfoddolwyr eraill yn lleol ac fe'ch cefnogir gan Swyddog Rhwydwaith Lleol Gogledd Cymru.



Bydd gennych ddiddordeb yng nghymdeithas yr MS a'i waith, yn ogystal â'r brwdfrydedd i gynrychioli ni a'n gwerthoedd yn lleol. Byddwch yn deall anghenion pobl yr effeithir arnynt gan MS yn eich ardal chi a byddwch yn cydymdeimlo ag anghenion a chymhellion y gwirfoddolwyr. Byddwch chi'n gallu cefnogi a chydlynu tîm o wirfoddolwyr.



Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com