Cofrestru Diddordeb

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb

16/05/2018

Gwirfoddolwr Cyfathrebu - Cymdeithas MS




Rydym yn awyddus i recriwtio Gwirfoddolwr Cyfathrebu ar gyfer Grŵp Gwynedd a Môn. Rydym yn grŵp bach gweithgar sy'n trefnu ystod o weithgareddau i bobl sy'n byw gydag MS yn lleol. Fel y Gwirfoddolwr Cyfathrebu, byddwch yn gyfrifol am ysgrifennu'r cylchlythyr bob chwarter a chynnal cyfryngau cymdeithasol lleol. Rydyn ni'n amcangyfrif bod angen tua phedwar awr y mis o'ch amser yn y rôl hon, yn ogystal â mynychu'r cyfarfod tîm misol cydlynu.



Byddwch yn gallu cyfathrebu'n glir mewn Saesneg ysgrifenedig a llafar a gallu defnyddio cyfrifiadur a rhyngrwyd. Byddwch yn deall anghenion pobl yr effeithir arnynt gan MS yn eich ardal chi a byddwch yn cydymdeimlo ag anghenion a chymhellion y gwirfoddolwyr.



Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com