Cofrestru Diddordeb

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb

30/06/2015

Intern sy’n gweithio o gartref i Law Works Cymru – Gwaith Ymchwil – Mapio Cyngor Cyfreithiol am Ddim yng Nghymru

Mae Law Works yn fudiad elusennol.
Rydym yn datblygu ac yn cefnogi’r gwaith o ddarparu gwasanaethau cyngor cyfreithiol am ddim i unigolion a mudiadau gwirfoddol bychan, nad ydynt yn gallu cael cymorth cyfreithiol ac nad ydynt yn gallu fforddio talu am gyngor cyfreithiol fel arall.
Sefydlwyd Law Works yn 1997 a lansiwyd Law Works Cymru yn 2013.

23/06/2015

Hwylusydd Gwirfoddol ar gyfer 'Darllen ar y Cyd' - Prosiect 'Llais a Llyfr' Gogledd Cymru

Mae’r prosiect ‘Llais a Llyfr’ yn chwilio am wirfoddolwyr ledled Gwynedd.   Fel gwirfoddolwr, eich rôl yw galluogi pobl i fanteisio ar brofiad rheolaidd o ddarllen ar y cyd.  Mewn partneriaeth â gwirfoddolwr arall, byddwch yn gyfrifol am grŵp wythnosol i ‘ddarllen ar y cyd’

Yn gyfnewid am hyn – byddwch yn rhan o’r mudiad ‘The Reader Organisation’ a byddwch yn helpu i hyrwyddo chwyldro darllen.

Bydd arnoch angen 2 - 3 awr yr wythnos (Bydd angen paratoi a chynnal sesiwn ar yr un amser yn wythnosol.  Mae un sesiwn yn para tua awr a hanner). 

Am fanylion pellach cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu carwyn@mantellgwynedd.com

Gwirfoddolwyr Canolfan Gyswllt Plant - Relate Cymru

Relate Cymru - Gwasanaeth Cyswllt Plant yn chwilio am wirfoddolwyr i gyfeillio a chefnogi yn ystod eu gweithgareddau yn y Ganolfan Cyswllt Plant ym Mangor. Bydd y gwirfoddolwyr yn darparu lluniaeth ysgafn, darparu amgylchedd i deuluopedd gael mynediad i ystod diogel ac annibynnol.

Am fanylion pellach cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu carwyn@mantellgwynedd.com

Hyfforddwr sgiliau arlein Cymru - RNIB

Hoffech chi helpu pobl sydd wedi colli eu golwg i fynd ar-lein? Allech chi rannu eich gwybodaeth a’ch brwdfrydedd i helpu pobl i ddefnyddio technoleg? Byddwch yn dangos i bobl sut mae defnyddio cyfrifiadur, tabled neu ffôn clyfar i fynd ar-lein, yn cyflwyno arddangosiadau a hyfforddiant grŵp ac yn ymweld â phobl yn eu cartrefi i’w helpu gyda sgiliau ar-lein sylfaenol.

Am fanylion pellach cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu carwyn@mantellgwynedd.com

Online Skills Trainer Wales - RNIB

Would you like to help people with sight loss explore the options of getting online? Could you share your knowledge and enthusiasm to help people engage with technology? You will show people how to use a computer, tablet or smart phone to get online, deliver group training and demonstrations and visit people in their home to help them with basic online skills.
This role requires an enhanced criminal record check
   
For further information contact Mantell Gwynedd on 01286 672626 or
carwyn@mantellgwynedd.com

Hyfforddwyr Chwarae a Chwaraeon - Taith i'r Balcanau Hydref 2015 - World at Play

Ymunwch â'r Tim Chwarae y Byd ar daith o 8 wythnos i'r Balcanau yn gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl ifanc difreintiedig:
Bydd wyth o wirfoddolwyr ynghyd âg Arweinydd Tîm yn cynnal sesiynau chwarae a chwaraeon yn ein sefydliadau partner yn Croatia, Bosnia, Kosovo, Serbia a Romania.
Bydd pob gwirfoddolwyr yn derbyn hyfforddiant llawn fel Arweinwyr Chwarae.
Byddwch yn cael profiad uniongyrchol mewn elusen ryngwladol.

Gwirfoddolwr Cadwraethol - Cymdeithas Eryri

Ymunwch a'r tîm i wneud amrywiaeth o weithgareddau cyffrous ar hyd a lled Parc Cenedlaethol Eryri.  Mae cyfle i wneud ffrindiau newydd, cael hwyl a gwneud gwahaniaeth yn eich ardal leol chi.  Trefnir o leiaf dri diwrnod o weithgareddau'r mis - sy'n cynnwys ambell i ddiwrnod ar benwythnos fel bo cyfle i BAWB gymryd rhan.  a gwneud gwahaniaeth yn nhirwedd hardd Eryri.
Mae'r tasgau'n amrywio'n fisol - ond cynigir cyfleoedd i blannu coed,  gwneud arolygon bywyd gwyllt, casglu sbwriel oddi ar yr Wyddfa ac ardaloedd eraill, cynnal a chadw llwybrau troed, clirio chwyn megis rhododendron a rheoli cynefinoedd.  Am fwy o fanylion cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu carwyn@mantellgwynedd.com

09/06/2015

Trawsgrifwr - Amgueddfa ac Oriel Gelf Gwynedd, Bangor

Rydym yn chwilio am unigolion sydd yn gallu gwrando ar gyfweliadau hanes lleol a gynhaliwyd yn Gymraeg a'u hysgrifennu i lawr yn gywir, gyda llaw neu gan ddefnyddio rhaglen deipio ar y cyfrifiadur.
Sgiliau:
• Rhugl yn y Gymraeg
• Gwrando
• Dealltwriaeth leol o iaith lafar, dywediadau ac ystyron


Am fanylion pellach cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu carwyn@mantellgwynedd.com