Mae’r prosiect ‘Llais a Llyfr’ yn chwilio am wirfoddolwyr ledled Gwynedd. Fel gwirfoddolwr, eich rôl yw galluogi pobl i fanteisio ar brofiad rheolaidd o ddarllen ar y cyd. Mewn partneriaeth â gwirfoddolwr arall, byddwch yn gyfrifol am grŵp wythnosol i ‘ddarllen ar y cyd’
Yn gyfnewid am hyn – byddwch yn rhan o’r mudiad ‘The Reader Organisation’ a byddwch yn helpu i hyrwyddo chwyldro darllen.
Bydd arnoch angen 2 - 3 awr yr wythnos (Bydd angen paratoi a chynnal sesiwn ar yr un amser yn wythnosol. Mae un sesiwn yn para tua awr a hanner).
Am fanylion pellach cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu carwyn@mantellgwynedd.com