Mae Law Works yn fudiad elusennol.
Rydym yn datblygu ac yn cefnogi’r gwaith o ddarparu gwasanaethau cyngor cyfreithiol am ddim i unigolion a mudiadau gwirfoddol bychan, nad ydynt yn gallu cael cymorth cyfreithiol ac nad ydynt yn gallu fforddio talu am gyngor cyfreithiol fel arall.
Sefydlwyd Law Works yn 1997 a lansiwyd Law Works Cymru yn 2013.
Rydym yn dymuno recriwtio Intern, i’n helpu ni i wneud gwaith ymchwil a mapio’r gwasanaethau cyfreithiol sydd ar gael am ddim yng Nghymru ar hyn o bryd.
Bydd yn:
* Cysylltu â chwmnïau cyfreithwyr a mudiadau trydydd sector.
* Cynnal arolwg dros y ffôn, i ganfod a ydynt yn darparu gwasanaethau cyfreithiol am ddim ar hyn o bryd, neu a oes ganddynt ddiddordeb mewn gwneud hynny.
* Paratoi adroddiad ar y canfyddiadau a rhoi rhestr o’r sefydliadau sydd â diddordeb i Law Works.
Darperir cyfrif Skype i’r intern, a bydd yn cael ei gefnogi gan Swyddog Prosiect Law Works Cymru.
Mae hon yn swydd wirfoddol, ddi-dâl.
Byddwn yn treialu’r arolwg mewn rhywfaint
Am fanylion pellach cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu carwyn@mantellgwynedd.com