Hoffech chi helpu pobl sydd wedi colli eu golwg i fynd ar-lein? Allech chi rannu eich gwybodaeth a’ch brwdfrydedd i helpu pobl i ddefnyddio technoleg? Byddwch yn dangos i bobl sut mae defnyddio cyfrifiadur, tabled neu ffôn clyfar i fynd ar-lein, yn cyflwyno arddangosiadau a hyfforddiant grŵp ac yn ymweld â phobl yn eu cartrefi i’w helpu gyda sgiliau ar-lein sylfaenol.
Am fanylion pellach cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu carwyn@mantellgwynedd.com