Ymunwch a'r tîm i wneud amrywiaeth o weithgareddau cyffrous ar hyd a lled Parc Cenedlaethol Eryri. Mae cyfle i wneud ffrindiau newydd, cael hwyl a gwneud gwahaniaeth yn eich ardal leol chi. Trefnir o leiaf dri diwrnod o weithgareddau'r mis - sy'n cynnwys ambell i ddiwrnod ar benwythnos fel bo cyfle i BAWB gymryd rhan. a gwneud gwahaniaeth yn nhirwedd hardd Eryri.
Mae'r tasgau'n amrywio'n fisol - ond cynigir cyfleoedd i blannu coed, gwneud arolygon bywyd gwyllt, casglu sbwriel oddi ar yr Wyddfa ac ardaloedd eraill, cynnal a chadw llwybrau troed, clirio chwyn megis rhododendron a rheoli cynefinoedd. Am fwy o fanylion cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu carwyn@mantellgwynedd.com