Rydym yn chwilio am unigolion sydd yn gallu gwrando ar gyfweliadau hanes lleol a gynhaliwyd yn Gymraeg a'u hysgrifennu i lawr yn gywir, gyda llaw neu gan ddefnyddio rhaglen deipio ar y cyfrifiadur.
Sgiliau:
• Rhugl yn y Gymraeg
• Gwrando
• Dealltwriaeth leol o iaith lafar, dywediadau ac ystyron
Am fanylion pellach cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu carwyn@mantellgwynedd.com