Cofrestru Diddordeb

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb

23/11/2017

Cynorthwy-ydd gwirfoddol prosiect 'Overcoming Obstacles' - WITH (Welsh Institute of Therapeutic Horsemanship)


Byddwch yn gwirfoddoli gyda staff prosiect Overcoming Obstacles i ddarparu sesiynau marchogaeth therapiwtig i unigolion sy'n oroeswyr cam-driniaeth er mwyn eu helpu i ennill hyder a sgiliau cyfathrebu a chymryd mwy o ran yn eu cymunedau.

Dyletswyddau prosiect

• Helpu cyfranogwyr i ennill sgiliau trosglwyddadwy ac ymarferol a fydd yn gwella eu rhagolygon yn y dyfodol
• Gweithredu fel arweinydd/cefnogwr, sicrhau diogelwch ac annog unigolion i gymryd rhan.
• Annog perthynas cryf a chadarnhaol ym mywydau'r cyfranogwyr.
• Hyfforddi cyfranogwyr ar sut  i ymdrin â cheffylau yn ddiogel. 

Dyletswyddau gweinyddol ac eraill

• Sicrhau bod y lefel uchaf o gyfrinachedd yn cael ei gynnal
• Cynnal cyfarpar perthnasol a phriodol i gyd mewn cyflwr rhagorol
• Dilyn polisïau a gweithdrefnau WITH
• Cymryd rhan weithredol yn y gwaith cynnal a chadw cyfleusterau a gofal ceffylau
 
Am fanylion pellach, cysylltwch efo Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Cynorthwy-ydd gwirfoddol prosiect 'Feeling Herd'WITH (Welsh Institute of Therapeutic Horsemanship)


Pwrpas y rôl yw gweithio ochr yn ochr â staff prosiect Feeling Herd. Byddwch yn cynorthwyo'r sesiynau hwyluso gyda cheffylau i deuluoedd sy'n dioddef o anfantais ac i'w helpu i ennill hyder, sgiliau cyfathrebu a gwella eu perthynas deuluol yn ogystal â sgiliau gofal ceffylau. Byddwch hefyd yn cefnogi defnyddwyr gwasanaeth mewn ffordd anfeirniadol, gan ganolbwyntio ar yr unigolyn, gwrando ar eu hanghenion, eu materion a'u dyheadau a sicrhau bod ethos WITH yn cael ei gynnal bob amser. 

Am fanylion pellach, cysylltwch efo Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Gwirfoddolwyr 'My Guide' (Llwyngwril, Meirionnydd– Cymdeithas Cwn Tywys)


Mae 'My Guide' yn gynllun newydd i helpu pobl ddall a phobl sydd â nam ar y golwg i fynd allan trwy eu paru â gwirfoddolwyr sydd wedi cael eu hyfforddi. 

Nod y cynllun yw cynyddu symudedd, hyder ac annibyniaeth unigolion.  

Dywedodd llysgennad  cynllun 'My Guide' Kylene Rafferty, fod adnabod gwirfoddolwyr addas yn hanfodol gan fod y cynllun yn golygu cydweithio'n agos ag oedolion sydd â nam ar eu golwg.

Rhaid i wirfoddolwyr fod dros 18 oed 

Am fanylion pellach, cysylltwch efo Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Arweinydd Darllen Gwirfoddol - Prosiect 'Better with a Book’ Gogledd Cymru – The Reader Organisation


Yn adeiladu ar brosiect blaenorol ‘Llais a Llyfr’ The Reader rydym yn sefydlu grwpiau Darllen ar y Cyd ledled tair sir yng ngogledd gogledd Cymru ac yn chwilio am wirfoddolwyr yng Ngwynedd.

Diben y rôl yw galluogi i bobl elwa o brofiad Ddarllen ar y Cyd a cheisio gwella lles, cryfhau'r gymuned a lleihau ynysiad cymdeithasol.

Ar ôl cael eich paru â hwylusydd gwirfoddol arall, byddwch yn gyfrifol am gyflwyno grŵp Darllen ar y Cyd yn wythnosol.

Buddiannau’n cynnwys:

- Bod yn rhan o’r gymuned Darllen ar y Cyd  a chyfarfod pobl newydd
- Galluogi pobl eraill i elwa o Ddarllen ar y Cyd
- Hyfforddiant a fydd yn galluogi ichi gyflwyno Darllen ar y Cyd.

Bydd angen i chi gymryd rhan yn ein rhaglen hyfforddi ‘Read to Lead’ a mynychu cyfarfodydd gwirfoddolwyr yn rheolaidd. Rydym yn gofyn ichi ymrwymo’n rheolaidd bob wythnos i baratoi a hwyluso grŵp Darllen ar y Cyd, gan weithio dan oruchwyliaeth a gyda chymorth cyfoedion a staff The Reader. 

Am fanylion pellach, cysylltwch efo Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Cyfle Newydd - Men’s Shed, Caernarfon

Rydym yn awyddus i recriwtio gwirfoddolwyr ar gyfer cynllun newydd 'Men's Shed' yng Nghaernarfon.  Mae 'Men's Shed' yn fenter genedlaethol sy'n cefnogi dynion. Cynhelir nifer o weithgareddau sydd o ddiddordeb i'r dynion e.e. gwaith coed, cardio, celf, LPs a cherdded. 

Mae 'Men's Shed' Caernarfon wedi ei leoli yn Cibyn. 

Am fanylion pellach, cysylltwch efo Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

18/10/2017

Cefnogwr ‘Speak UP’ – Age Connects North Wales Central


Cefnogi ac annog pobl hŷn sy’n agored i niwed i gael yr hyder i siarad drostynt eu hunain mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd gan gynnwys cartrefi nyrsio a phreswyl, cartrefi lloches a llety gofal ychwanegol.  Annog ystwythder a hunan-barch ac annog sgiliau hunan-eiriolaeth.  Cefnogi pobl hŷn er mwyn sicrhau bod eu hanghenion, eu hawliau a'u dymuniadau yn cael eu hategu.

Am fanylin pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Cydlynydd Casglu Arian - yn eich pentref neu dref – Marie Curie


Byddwch yn synnu faint o arian sy'n cael ei roi trwy flychau casglu o fewn y gymuned leol. Fel Cydlynydd Casglu Arian, chi fydd yn gyfrifol am eich rhwydwaith eich hun o flychau yn eich ardal leol - boed mewn siop leol neu ganolfan hamdden. Po fwyaf o flychau gallwch osod a chasglu, y mwyaf o arian y byddwch yn codi ar gyfer Marie Curie.  Fel Cydlynydd Casglu Arian byddwch yn ymweld â safleoedd sy'n bodoli eisoes ychydig o weithiau y flwyddyn i gyfnewid tuniau llawn ar gyfer rhai gwag ac yn defnyddio eich gwybodaeth leol i chwilio am leoliadau newydd. Byddwch hefyd yn chwarae rhan allweddol yn y Apêl Fawr Cennin Pedr ym mis Mawrth, trwy helpu i osod a chasglu blychau cenin pedr.  Boed yn dun casglu neu flwch cennin pedr, y cam nesaf yw cyfrif a bancio y rhoddion a chwblhau'r gwaith papur angenrheidiol. 

Mae'r rôl hon yn hyblyg ac yn amrywiol, gallwch drefnu eich amser fel bod eich gwaith gwirfoddol cyd-fynd â'ch bywyd. 

Am fanylin pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com