Cofrestru Diddordeb

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb

23/11/2017

Arweinydd Darllen Gwirfoddol - Prosiect 'Better with a Book’ Gogledd Cymru – The Reader Organisation


Yn adeiladu ar brosiect blaenorol ‘Llais a Llyfr’ The Reader rydym yn sefydlu grwpiau Darllen ar y Cyd ledled tair sir yng ngogledd gogledd Cymru ac yn chwilio am wirfoddolwyr yng Ngwynedd.

Diben y rôl yw galluogi i bobl elwa o brofiad Ddarllen ar y Cyd a cheisio gwella lles, cryfhau'r gymuned a lleihau ynysiad cymdeithasol.

Ar ôl cael eich paru â hwylusydd gwirfoddol arall, byddwch yn gyfrifol am gyflwyno grŵp Darllen ar y Cyd yn wythnosol.

Buddiannau’n cynnwys:

- Bod yn rhan o’r gymuned Darllen ar y Cyd  a chyfarfod pobl newydd
- Galluogi pobl eraill i elwa o Ddarllen ar y Cyd
- Hyfforddiant a fydd yn galluogi ichi gyflwyno Darllen ar y Cyd.

Bydd angen i chi gymryd rhan yn ein rhaglen hyfforddi ‘Read to Lead’ a mynychu cyfarfodydd gwirfoddolwyr yn rheolaidd. Rydym yn gofyn ichi ymrwymo’n rheolaidd bob wythnos i baratoi a hwyluso grŵp Darllen ar y Cyd, gan weithio dan oruchwyliaeth a gyda chymorth cyfoedion a staff The Reader. 

Am fanylion pellach, cysylltwch efo Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com