Cofrestru Diddordeb

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb

23/11/2017

Gwirfoddolwyr 'My Guide' (Llwyngwril, Meirionnydd– Cymdeithas Cwn Tywys)


Mae 'My Guide' yn gynllun newydd i helpu pobl ddall a phobl sydd â nam ar y golwg i fynd allan trwy eu paru â gwirfoddolwyr sydd wedi cael eu hyfforddi. 

Nod y cynllun yw cynyddu symudedd, hyder ac annibyniaeth unigolion.  

Dywedodd llysgennad  cynllun 'My Guide' Kylene Rafferty, fod adnabod gwirfoddolwyr addas yn hanfodol gan fod y cynllun yn golygu cydweithio'n agos ag oedolion sydd â nam ar eu golwg.

Rhaid i wirfoddolwyr fod dros 18 oed 

Am fanylion pellach, cysylltwch efo Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com