Cofrestru Diddordeb

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb

23/11/2017

Cynorthwy-ydd gwirfoddol prosiect 'Overcoming Obstacles' - WITH (Welsh Institute of Therapeutic Horsemanship)


Byddwch yn gwirfoddoli gyda staff prosiect Overcoming Obstacles i ddarparu sesiynau marchogaeth therapiwtig i unigolion sy'n oroeswyr cam-driniaeth er mwyn eu helpu i ennill hyder a sgiliau cyfathrebu a chymryd mwy o ran yn eu cymunedau.

Dyletswyddau prosiect

• Helpu cyfranogwyr i ennill sgiliau trosglwyddadwy ac ymarferol a fydd yn gwella eu rhagolygon yn y dyfodol
• Gweithredu fel arweinydd/cefnogwr, sicrhau diogelwch ac annog unigolion i gymryd rhan.
• Annog perthynas cryf a chadarnhaol ym mywydau'r cyfranogwyr.
• Hyfforddi cyfranogwyr ar sut  i ymdrin â cheffylau yn ddiogel. 

Dyletswyddau gweinyddol ac eraill

• Sicrhau bod y lefel uchaf o gyfrinachedd yn cael ei gynnal
• Cynnal cyfarpar perthnasol a phriodol i gyd mewn cyflwr rhagorol
• Dilyn polisïau a gweithdrefnau WITH
• Cymryd rhan weithredol yn y gwaith cynnal a chadw cyfleusterau a gofal ceffylau
 
Am fanylion pellach, cysylltwch efo Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com