Pwrpas y rôl yw gweithio ochr yn ochr â staff prosiect
Feeling Herd. Byddwch yn cynorthwyo'r sesiynau hwyluso gyda cheffylau i
deuluoedd sy'n dioddef o anfantais ac i'w helpu i ennill hyder, sgiliau
cyfathrebu a gwella eu perthynas deuluol yn ogystal â sgiliau gofal ceffylau.
Byddwch hefyd yn cefnogi defnyddwyr gwasanaeth mewn ffordd anfeirniadol, gan
ganolbwyntio ar yr unigolyn, gwrando ar eu hanghenion, eu materion a'u dyheadau
a sicrhau bod ethos WITH yn cael ei gynnal bob amser.
Am fanylion pellach, cysylltwch efo Mantell Gwynedd ar
01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com