Cofrestru Diddordeb

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb

30/06/2015

Ymddiriedolwr - Institiwt Therapi Marchogwriaeth Cymru

Mynychu a cymeryd rhan yn weithredol mewn cyfarfodydd chwarterol.
Sicrhau fod Institiwt Therapi Marchogwriaeth Cymru yn cydymffurfio gyda eu dogfen llywodraethol, cyfraith elusennol, a pethau cyfreithlon perthnasol a rheolau.
Sicrhau fod Institiwt Therapi  Marchogwriaeth Cymru yn dilyn pethau elusennol fel ag sydd wedi eu ddiffinio yn y ddogfen llywodraethol.
Sicrhau fod Institiwt Therapi Marchogwriaeth Cymru yn defnyddio eu adnoddau mewn dilyn pethau elusennol yn unig.
Cyfrannu yn weithredol i rol y Bwrdd trwy roddi canllawiau pendant ac arweiniad i wneud gyda gosod cyfanwaith o bolisiau, diffinio amcanion,gosod targedau, gwerthuso , a mesur gwerth perfformiad yn erbyn targedau a oedd wedi eu gosod.
Amddiffyn enw da a gwerthoedd feol eu bod yncydfynd gyda "code of conduct" Ymddiriedolwyr.
Sicrhau fod sefydlogrwydd ariannol a gweinyddiaeth effeithiol.
Amddiffyn yr eiddo gan sicrhau y buddsoddiad cywir.
Appwyntio a chefnogi staff a gwirfoddolwyr a monitro eu perfformiad.


Am fanylion pellach cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu carwyn@mantellgwynedd.com

Gwirfoddolwr Cadwraethol - Cymdeithas Eryri

Ymunwch â'r tîm i wneud amrywiaeth o weithgareddau cyffrous ar hyd a lled Parc Cenedlaethol Eryri.  Mae'n gyfle i wneud ffrindiau newydd, cael hwyl a gwneud gwahaniaeth yn eich ardal leol chi.  Trefnir o leiaf dri diwrnod o weithgareddau bob mis - sy'n cynnwys ambell ddiwrnod ar benwythnosau fel bo cyfle i bawb gymryd rhan.
Mae'r tasgau'n amrywio'n fisol - ond cynigir cyfleoedd i blannu coed,  gwneud arolygon dolffiniaid a llamhidyddion, casglu sbwriel oddi ar yr Wyddfa ac ardaloedd eraill ledled y Parc Cenedlaethol, clirio chwyn megis rhododendron, arolygon dyfrgwn a chynnal a chadw llwybrau troed.

Am fwy o fanylion cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu carwyn@mantellgwynedd.com

Gwirfoddolwyr ar gyfer digwyddiad Balchder Gogledd Cymru 2015

Mae Cymru Pride Wales angen gwirfoddolwyr ar gyfer eu digwyddiad Balchder Gogledd Cymru 2015. Cynhelir yr wyl dros benwythnos y 24ydd-26ed o Orffennaf 2015 draw yn Neuadd Hendre ar gyrion dinas Bangor. Cynnigir nifer o gyfleoedd ar gyfer unigolion brwdfrydig fyddai'n hoffi fod yn rhan o'r digwyddiad unigryw yma. Gofynnir am gymorth megis cynorthwy-ydd maes parcio, maes gwersyllo, cynorthwyo'r tim adloniant (croesawu a thywys y cantorion i'r wyl a thasgau eraill), cynorthwyo'r tim derbynfa/croeso, gofyn am adborth gan westeion yn ystod yr wyl gan sicrhau fod eu anghenion yn cael eu cwrdd a'u bod yn mwynhau'r digwyddiad a hefyd tasgau cyffredinol eraill. Ar y cyfan, byddwch yn teimlo yn rhan o dim cyfeillgar ac yn cyfrannu tuag at lwyddiant y drydedd digwyddiad Balchder Gogledd Cymru!

Am fanylion pellach cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu carwyn@mantellgwynedd.com

Intern sy’n gweithio o gartref i Law Works Cymru – Gwaith Ymchwil – Mapio Cyngor Cyfreithiol am Ddim yng Nghymru

Mae Law Works yn fudiad elusennol.
Rydym yn datblygu ac yn cefnogi’r gwaith o ddarparu gwasanaethau cyngor cyfreithiol am ddim i unigolion a mudiadau gwirfoddol bychan, nad ydynt yn gallu cael cymorth cyfreithiol ac nad ydynt yn gallu fforddio talu am gyngor cyfreithiol fel arall.
Sefydlwyd Law Works yn 1997 a lansiwyd Law Works Cymru yn 2013.

23/06/2015

Hwylusydd Gwirfoddol ar gyfer 'Darllen ar y Cyd' - Prosiect 'Llais a Llyfr' Gogledd Cymru

Mae’r prosiect ‘Llais a Llyfr’ yn chwilio am wirfoddolwyr ledled Gwynedd.   Fel gwirfoddolwr, eich rôl yw galluogi pobl i fanteisio ar brofiad rheolaidd o ddarllen ar y cyd.  Mewn partneriaeth â gwirfoddolwr arall, byddwch yn gyfrifol am grŵp wythnosol i ‘ddarllen ar y cyd’

Yn gyfnewid am hyn – byddwch yn rhan o’r mudiad ‘The Reader Organisation’ a byddwch yn helpu i hyrwyddo chwyldro darllen.

Bydd arnoch angen 2 - 3 awr yr wythnos (Bydd angen paratoi a chynnal sesiwn ar yr un amser yn wythnosol.  Mae un sesiwn yn para tua awr a hanner). 

Am fanylion pellach cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu carwyn@mantellgwynedd.com

Gwirfoddolwyr Canolfan Gyswllt Plant - Relate Cymru

Relate Cymru - Gwasanaeth Cyswllt Plant yn chwilio am wirfoddolwyr i gyfeillio a chefnogi yn ystod eu gweithgareddau yn y Ganolfan Cyswllt Plant ym Mangor. Bydd y gwirfoddolwyr yn darparu lluniaeth ysgafn, darparu amgylchedd i deuluopedd gael mynediad i ystod diogel ac annibynnol.

Am fanylion pellach cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu carwyn@mantellgwynedd.com

Hyfforddwr sgiliau arlein Cymru - RNIB

Hoffech chi helpu pobl sydd wedi colli eu golwg i fynd ar-lein? Allech chi rannu eich gwybodaeth a’ch brwdfrydedd i helpu pobl i ddefnyddio technoleg? Byddwch yn dangos i bobl sut mae defnyddio cyfrifiadur, tabled neu ffôn clyfar i fynd ar-lein, yn cyflwyno arddangosiadau a hyfforddiant grŵp ac yn ymweld â phobl yn eu cartrefi i’w helpu gyda sgiliau ar-lein sylfaenol.

Am fanylion pellach cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu carwyn@mantellgwynedd.com

Online Skills Trainer Wales - RNIB

Would you like to help people with sight loss explore the options of getting online? Could you share your knowledge and enthusiasm to help people engage with technology? You will show people how to use a computer, tablet or smart phone to get online, deliver group training and demonstrations and visit people in their home to help them with basic online skills.
This role requires an enhanced criminal record check
   
For further information contact Mantell Gwynedd on 01286 672626 or
carwyn@mantellgwynedd.com