Cofrestru Diddordeb

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb

30/06/2015

Gwirfoddolwr Cadwraethol - Cymdeithas Eryri

Ymunwch â'r tîm i wneud amrywiaeth o weithgareddau cyffrous ar hyd a lled Parc Cenedlaethol Eryri.  Mae'n gyfle i wneud ffrindiau newydd, cael hwyl a gwneud gwahaniaeth yn eich ardal leol chi.  Trefnir o leiaf dri diwrnod o weithgareddau bob mis - sy'n cynnwys ambell ddiwrnod ar benwythnosau fel bo cyfle i bawb gymryd rhan.
Mae'r tasgau'n amrywio'n fisol - ond cynigir cyfleoedd i blannu coed,  gwneud arolygon dolffiniaid a llamhidyddion, casglu sbwriel oddi ar yr Wyddfa ac ardaloedd eraill ledled y Parc Cenedlaethol, clirio chwyn megis rhododendron, arolygon dyfrgwn a chynnal a chadw llwybrau troed.

Am fwy o fanylion cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu carwyn@mantellgwynedd.com