Cofrestru Diddordeb

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb

30/06/2015

Gwirfoddolwyr ar gyfer digwyddiad Balchder Gogledd Cymru 2015

Mae Cymru Pride Wales angen gwirfoddolwyr ar gyfer eu digwyddiad Balchder Gogledd Cymru 2015. Cynhelir yr wyl dros benwythnos y 24ydd-26ed o Orffennaf 2015 draw yn Neuadd Hendre ar gyrion dinas Bangor. Cynnigir nifer o gyfleoedd ar gyfer unigolion brwdfrydig fyddai'n hoffi fod yn rhan o'r digwyddiad unigryw yma. Gofynnir am gymorth megis cynorthwy-ydd maes parcio, maes gwersyllo, cynorthwyo'r tim adloniant (croesawu a thywys y cantorion i'r wyl a thasgau eraill), cynorthwyo'r tim derbynfa/croeso, gofyn am adborth gan westeion yn ystod yr wyl gan sicrhau fod eu anghenion yn cael eu cwrdd a'u bod yn mwynhau'r digwyddiad a hefyd tasgau cyffredinol eraill. Ar y cyfan, byddwch yn teimlo yn rhan o dim cyfeillgar ac yn cyfrannu tuag at lwyddiant y drydedd digwyddiad Balchder Gogledd Cymru!

Am fanylion pellach cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu carwyn@mantellgwynedd.com