Cofrestru Diddordeb

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb

01/09/2015

Gwirfoddolwyr Dysgu Gyda'n Gilydd - Volunteering Matters

Mae gwirfoddolwyr yn rhoi cymorth i ddisgyblion am awr neu ddwy bob wythnos, mewn ysgolion neu leoliadau yn y gymuned, yn gwrando arnyn nhw’n darllen, yn rhoi help ychwanegol gyda Mathemateg neu bynciau eraill. Neu, byddan nhw’n cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau - o arddio, coginio, drama i weu.  Y peth pwysig yw’r rhyngweithio rheolaidd personol (sy’n cael ei arolygu bob amser gan athrawon neu staff.) Gall 10 munud y diwrnod yn unig yn gwrando ar blant yn darllen wneud gwahaniaeth mawr i’w gallu a’u hyder cyffredinol.
Am fwy o fanylion cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com