Beth yw’r Panel Dinasyddion?
•Menter newydd gyffrous sydd wedi’i sefydlu fel sail i wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn y dyfodol ac i ddylanwadu arnynt.
•Caiff ei reoli’n annibynnol ac yn ddiduedd gan wasanaethau gwirfoddol ledled Gogledd Cymru.
Mae arnom angen siarad â phobl yn eich cymunedau chi na fyddent yn lleisio eu barn fel rheol - ac mae arnom angen eich help chi i ddod o hyd iddyn nhw!
Disgrifiad o’r Gweithgareddau Gwirfoddoli:
•Gweithio mewn tîm, mewn lleoliadau amrywiol yn y gymuned
•Mynd at aelodau’r cyhoedd a sgwrsio gyda nhw
•Esbonio rôl y Panel Dinasyddion
•Ennyn diddordeb a hyder y cyhoedd
•Cael aelodau’r cyhoedd i ddod yn gyfranogwyr brwd ar y Panel Dinasyddion
Am fwy o fanylion cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com