Cofrestru Diddordeb

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb

03/09/2015

Ymgyfeilliwr dros y ffon - GOFAL. Y Groes Goch

Gwasanaeth ymgyfeillio a galluogi sy’n cael ei ddarparu ar gyfer pobl dros hanner cant oed yng Nghymru yw GOFAL. Nod y gwasanaeth yw lleihau unigrwydd a hybu rhyngweithio cymdeithasol a lles emosiynol. I rai cleientiaid gall galwadau ffôn helpu yn hyn o beth.
Mae tasgau cyffredin yn cynnwys:

•Cynnig clust i wrando a llais cyfeillgar ar y ffôn
•Cadw cofnodion cyfredol a logiau galwadau ac ati
•Cyfeirio at unrhyw wasanaethau perthnasol eraill
Gan gofio am gyfrinachedd, pasio unrhyw bryderon ymlaen neu dynnu sylw’r Rheolwr at unrhyw faterion addas

Am fwy o fanylion am y cyfle yma, ffoniwch Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu ebostiwch gwirfoddoli@mantellgwynedd.com