Mae hwn yn brosiect sydd wedi ei gyllido gan grant Miliynau’r Bobl Cronfa’r Loteri Fawr, i ddatblygu canolfan hyfforddiant i bobl ifanc er mwyn dysgu sgiliau newydd a fydd yn eu galluogi i symud ymlaen i waith cyflogedig yn y maes arlwyo.
Mae’r rôl gwirfoddolwyr yn gofyn iddynt wneud amrywiaeth o dasgau yn y gegin / caffi i sicrhau profiad rhagorol i gwsmeriaid. Gweini cwsmeriaid, paratoi bwyd a diod, glanhau byrddau a chadw’r caffi yn lan, defnyddio til wrth weithio mewn tîm effeithiol gyda gwirfoddolwyr eraill ag staff.
Am fwy o fanylion cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com