Cofrestru Diddordeb

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb

01/09/2015

Trefnydd Cefnogaeth mewn Caffi yn y Gymuned - Y Gymdeithas Strôc

Bydd Trefnwyr Cefnogaeth Caffi yn y Gymuned yn cynnig cymorth a chyngor i oroeswyr stroc, eu teuluoedd au gofalwyr, mewn lleoliad lleol lle gall pobl sydd wedi goresgyn strôc brynu eu bwyd a'u diod eu hunain. Bydd hyn yn helpu i leihau unigrwydd cymdeithasol a gwella hyder a hunan-barch yr unigolion sydd wedi goroesi. Gall y gwirfoddolwyr drefnu amrywiol weithgareddau yn y lleoliad neu wahodd unigolyn arall i ddod i wneud gwaith crefft neu roi sgwrs.

Am fanylion pellach cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com