Cofrestru Diddordeb

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb

29/09/2015

Cyfle i gloddio - Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd

Mae Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd yn cloddio yng ngweithle Boston Lodge Rheilffordd Ffestiniog ag Eryri, Minffordd o Ddydd Mawrth 6ed Hydref tan Ddydd Gwener 16eg Hydref ac angen gwirfoddolwyr i helpu. Mi fydd y gwaith yn cynnwys cloddio, glanhau a chofnodi dwy sied powdwr gwn a hefyd ardal o iard lle'r oedd storfa a siop saer coed.
Nodwch bod y gyllideb gyfyngedig felly yn anffodus mi fydd dim ond ychydig bach o arian ar gyfer hawlio treuliau. Hefyd, tro ‘ma ni fydd gennym ddigon o adnoddau i gefnogi gwirfoddolwyr sydd heb unrhyw brofiad o wirfoddoli.

Am fanylion pellach cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com