Cofrestru Diddordeb

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb

04/10/2017

Ymchwilydd / Hwylusydd Hanesion Cudd – Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru

Mae ein prosiect yn gofyn sut y mae Cymru wedi cyfrannu at heddwch ers y Rhyfel Byd Cyntaf? Fel rhan o ateb y cwestiwn hwnnw, rydym am edrych ar y dolenni sydd gan Gymru gyda gwledydd eraill o ddangos cefnogaeth iddynt. 

Byddwch yn cefnogi grwpiau cymunedol i ddatgelu eu hanes cudd  rhyngwladol. Mae hyn yn cynnwys:

• Esbonio'r prosiect i grwpiau a'r hyn y gallwn ei gynnig
• Eu helpu i:
• Mynegu y mathau o storïau a hanesion sy'n ddiddorol i'r prosiect.
• Llwytho a tagio arteffactau hanesyddol (cofnodion cyfarfodydd, cyhoeddiadau, lluniau o ddigwyddiadau) i Gasgliad Gwerin Cymru.
• Dweud eu straeon trwy ysgrifennu, fideo, sain neu fformatau eraill i ledaenu eu straeon trwy gyfryngau cymdeithasol a'u rhwydweithiau.
• Rhannu eu sgiliau gydag eraill yn eu cymunedau / rhwydweithiau a allai fod eisiau rhannu mwy o'u straeon.  Mae’r cyfle yma yn addas i bobl oed 18+. 

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com