Ydych chi'n frwdfrydig ac yn hyderus wrth roi
cyflwyniadau? Os felly, ymunwch â'n tîm gwych o Wirfoddolwyr Achrededig i'n
helpu i godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o epilepsi. Byddwch yn darparu sesiynau ymwybyddiaeth o
epilepsi sydd wedi'u archebu ymlaen llaw i grwpiau â diddordeb ac yn ein
cynorthwyo i hyrwyddo'r gwasanaeth hwn yn lleol. Cyflwynir y cyflwyniadau drwy
ddefnyddio PowerPoint (cewch hyfforddiant ar gyfer hyn). Rhaid i chi fod yn hyderus wrth ymwneud â
phobl ac wrth wneud cyflwyniadau. Dylech allu cyflwyno'r gwybodaeth yn glir ac
hefyd gyda brwdfrydedd.
Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar
01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com