Mae Cyfeillion y Ddaear
Môn a Gwynedd yn chwilio am wirfoddolwr brwdfrydig i chwarae rhan flaenllaw i
helpu rhedeg y grŵp. Gall hyn olygu, er enghraifft, gweithredu fel cyswllt ar-lein
gyda staff Cyfeillion y Ddaear, gan gynorthwyo i drefnu ymgyrchoedd lleol a
chenedlaethol, a recriwtio aelodau newydd.
Mae Cyfeillion y Ddaear
Môn a Gwynedd wedi bod yn weithgar mewn ymgyrchoedd amgylcheddol lleol a
chenedlaethol ers dros 20 mlynedd. Mae'r ymgyrchoedd yn ystod yr amser hwnnw
wedi cwmpasu ystod eang o bynciau, gan gynnwys ailgylchu, llosgi, ynni
adnewyddadwy, pŵer niwclear, bwyd lleol, cadwraeth ynni, GM a chemegau mwy
diogel.
Mae hwn yn gyfle delfrydol
i rywun sydd â diddordeb mewn materion amgylcheddol a hoffai gyflawni newid
cadarnhaol trwy weithio gyda phobl debyg yn lleol ac yn genedlaethol. Oes
gennych ychydig o amser i helpu a gwneud gwahaniaeth?
Am fanylion pellach,
cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com